Theatr Ieuenctid Sherman Cymru

Cenhedlaeth Fi

Mi Generation

Dyddiadau

Dydd Sul 5 Awst


Prisiau

Am Ddim

Gwybodaeth ychwanegol

Cenhedlaeth Fi, ar y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg ar 5 Awst am 2yh. Er mwyn archebu tocynnau mynediad i'r Eisteddfod ewch i: www.eisteddfod.org.uk

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Crëwyd a perfformiwyd y sioe yma ar ddechrau'r flwyddyn mewn ymateb i waith ymchwil a wnaethpwyd yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, i gyfweliadau â theulu a ffrindiau, ac i ymweliadau gan arbenigwyr hanesyddol. Mae’r grwp wedi cloddio i dair degawd hanesyddol, sef yr 1980au, yr 1950au a’r 1920au, ac wedi cymharu eu bywyd fel pobl ifanc heddiw, i fywyd y bobl ifanc yn y cyfnodau hynny. Mae wedi bod yn gyfnod o archwilio arbennig, o rannu profiadau bywyd, ac o dipyn go lew o ' werthin.

‘Rydym wedi cael amser gwych yn creu’r sioe ‘rydych chi am ei gweld heddiw. ‘Roedd cymaint o ddeunydd diddorol i’w gael ym mhob degawd ‘roedd rhaid dewis rhai agweddau’n unig er mwyn eu cynnwys. Mae’r sioe’n crynhoi personoliaethau, profiadau a barn y bobl ifanc - ac mae gan y criw yma ddigon i’w ddweud!

Felly ble mae’r 'leg warmers' yna, a’r esgidiau swêd glas?… Croeso i sioe'r Cenhedlaeth Fi. Llinos Mai - Cyfarwyddwr

Cenhedlaeth Fi, ar y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg ar 5 Awst am 2yh.

Er mwyn archebu tocynnau mynediad i'r Eisteddfod ewch i: www.eisteddfod.org.uk

 

Amserau

Cenhedlaeth Fi - Theatr y Maes

 
 Dydd Sul 5 Awst  2yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017