Theatr Ieuenctid Sherman Cymru

Dressing Up Too

Dressing Up too

Dyddiadau

21-23 Chwefror

Prisiau

£8 | Gostyngiadau £2 i ffwrdd
Dan 25: Hanner Pris

Gwybodaeth ychwanegol

Iaith y perfformiad: Saesneg

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Yn y cynhyrchiad hwn gan Theatr Ieuenctid Sherman Cymru, sy'n cynnwys pob un o'n 120 o berfformwyr ifanc, mae yna gyfle iddyn nhw i archwilio'u perthynas gyda'u hunain ac eraill a'r ffordd y mae ein cymdeithas o ddefnyddwyr, sy'n tyfu drwy'r amser, yn dylanwadu ar ein canfyddiad o realiti.

Llwyfan Dressing Up Too yw rhodfa 15 metr sioe ffasiwn, ac mae'n archwilio dyheadau, uchelgais a disgwyliadau pobl ifanc, ohonyn nhw eu hunain ac eraill, a'r rhesymau posib dros hynny. Dewch i weld ein sioe ffasiynau amgen, sy'n defnyddio sain, ffilm, y gair a symudiad, a chamwch i mewn i fydoedd ein perfformwyr i ddeall sut mae dyheadau mewnol yn mynegi eu hunain trwy ddelweddau allanol.

@ShermanCymru
#dressinguptoo

 

Ychwanegwch sbeis i'ch bywyd teithio!

Ymunwch â Sustrans, elusen cerdded a beicio, o 6pm ar ddydd Iau 21 Chwefror i dderbyn pecyn teithio personol rhad ac am ddim ar gyfer teithio i Theatr y Sherman ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus.

P'un a ydych am cael gwybod mwy am gerdded lleol a llwybrau beicio, neu os hoffech gyngor ar yr 'apps' gorau, mapiau a gwefannau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a beicio, bydd Sustrans wrth law gyda'r holl wybodaeth rydych ei hangen i wneud dewisiadau teithiau iach, rhad, isel-carbon i Theatr y Sherman a Chanol y Ddinas.

Amserau

Dressing Up Too -Theatr 1  
Dydd Iau 21 Chwefror 7.30yh
Dydd Gwener 22 Chwefror 7.30yh
Dydd Sadwrn 23 Chwefror 7.30yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Syniad gwreiddiol gan: Phillip Mackenzie


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @keironself: Wow @HowToWinAgainst @ShermanTheatre is genius! Superb show very very funny and moving. Beg borrow and steal to get a ticke…
Fri, 17 Nov 2017