Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Yr Argae

Yr Argae

22 Ionawr 2009 - 24 Ionawr 2009

Sherman Cymru/Torri Gair
Gan Conor McPherson
Cyfeithiad gan Wil Sam Jones

Teyrnged i’r diweddar Wil Sam

Yn dilyn ei llwyddiant yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a’r Cylch 2008 mae Yr Argae yn dychwelyd i Sherman ac yna'n mynd ar daith o amgylch Cymru.

Mewn tafarn fechan, wledig ym mhellafion digyffro’r Ynys Werdd, mae tri hen lanc yn rhannu sgwrs a pheint – yn ôl eu harfer. Ond heno, mae Finbar Mack yn hwylio i mewn o’r dre’ a gwraig ifanc, newydd i’r ardal, o dan ei aden. Wrth i wres y tân eu dwyn yn nes a gwin y gwan iro’r dweud, mae pawb yn eu tro yn datgelu tipyn o’i hanes – a’r hanesion fymryn mwy arswydus na’r disgwyl. Daw’n amlwg fod yma fwy na chysur a chwmnïaeth deg ar noson stormus; mae yma ofn ac unigrwydd a hiraeth.

Wedi ei throsi i’r Gymraeg gan Wil Sam yn ei arddull hynaws, ddihafal, dyma ddrama iasol sy’n mynd i’r afael â’r digwyddiadau mawrion hynny sy’n ein diffinio fel unigolion, a’r profiadau bychain sy’n ein dwyn ynghyd.

Gyda chymorth Nant.


Prisiau:

£11.74, £9.79 (Cyfradd VAT newydd 15% yn gymwysedig)


Dyddiadau ac amserau:

22 - 24 Ionawr, 8.00pm


Iaith y cynhyrchiad:

Cymraeg