Les Liaisons Dangereuses
27 Ionawr 2009 - 31 Ionawr 2009
Act One
Cyfarwyddwr Hannah Dell
Mae chwarae â theimladau pobl, eu calonnau a’u cariad yn gêm i’r Vicomte de Valmont a’r Marquise de Merteuil - gêm sy’n rhaid ei hennill costied a chostio. Mae’r ddau’n ddeallus ac yn chwarae’r gêm mor gelfydd mae’n rhaid eu hedmygu, nes iddynt ddarganfod nad ydynt yn deall y rheolau rhyfedd sy’n perthyn i’r gêm hon. Yn y frwydr sy’n dilyn nid oes enillwyr, a bydd y diniwed a’r euog yn dioddef fel ei gilydd.
O nofel Choderlos de Laclos, a ysbrydolodd y ffilmiau Dangerous Liaisons a Cruel Intentions, lleolir y ddrama yng nghymdeithas lwgr byddigions Ffrainc ar ddiwedd y 18fed ganrif. Dyma stori sy’n berthnasol i bob cyfnod mewn hanes - stori am foesau rhywiol, chwant a dialedd.
Prisiau:
£6.85, £4.89 (Cyfradd VAT newydd 15% yn gymwysedig)
Dyddiadau ac amserau:
Dydd Mawrth 27 - Dydd Sadwrn 31 Ionawr, 7.30pm
Iaith y cynhyrchiad:
Saesneg
