Shishya 2012
'Shishya 2012' – y digwyddiad Dawns Indiaidd mwyaf yng Nghymru!
Yn cynnwys rhai o bennaf ddawnswyr Bharatanatyam ifainc mwya’u bri yng ngwledydd Prydain. Bharatanatyam, yr arddull Ddawns Indiaidd Glasurol gain, yn cael ei pherfformio gan tua 80 o ddisgyblion dawns (Shishyas) wedi’u hyfforddi gan Ddawns India Cymru, o bob oed, gallu a chefndir, o Gaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Treforys, Caerfyrddin a Bryste a Cheltenham. Mae’r perfformiad wedi’i seilio ar yr Arglwydd Krishna y plentyn rhyfeddol, y llanc rhamantus sy’n pryfocio Gopis Gokul (morynion llaeth y pentre) ac sy’n ailymgnawdoliad yr Arglwydd Vishnu mawr.
Mae hyfforddiant y dawnswyr dan arweiniad yr athro arobryn Guru Kiran Ratna.