National Dance Company Wales: Folk

NDCW 16 Main

Dyddiadau

18 & 19 Chwefror 7.30yh

Prisiau

£15 - £22

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Folk by Caroline Finn - National Dance Company Wales from National Dance Company Wales on Vimeo.

 

Y Gwanwyn hwn mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno repertoire o ddawns fywiog a chyffrous yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn unrhyw ran o'r byd o Folk, gan Gyfarwyddwr Artistig newydd y Cwmni, Caroline Finn.

Folk

Mae Folk yn arddangos dynesiad tywyll-ddoniol Finn tuag at fywyd ac yn arddangos ei harddull coreograffig ysmala a hynod atyniadol. Mae'r darn yn archwilio deinameg cymdeithasol, golygfeydd cyfarwydd a swrèal a chymeriadau a fydd yn bywiogi o fewn y tirwedd cerddorol eclectig a swynol.

Tuplet

Mae Tuplet gan Alexander Ekman yn archwiliad octan uchel a chrafog o'r cysyniad syml o rhythm. Mae anadl a chyrff y dawnswyr yn cyfuno er mwyn creu trac sain drymio grymus, a chyfunir hyn gyda chyfeiliant curiad electronig, yn ogystal â synau jas atgofus Fly Me to the Moon. Mae'r corfforoldeb tanbaid hwn yn cyfuno gyda dawns lawen ysgafnfryd sy'n dangos yn glir bersonoliaeth a medrau nodedig y dawnswyr.

Walking Mad

Wedi ei osod i synau grymus ac atyniadol Boléro gan Ravel, a cherddoriaeth gan Arvo Pärt, mae Walking Mad yn llawn ffraethineb ond ag ymdeimlad cythryblus o wallgofrwydd ynddo drwyddo draw.

Perfformiad Matinee Rhyngweithiol i'r Teulu

Mae'r dawnswyr yn creu eu cyfeiliant taro eu hunain sy'n cyfuno gyda'r tirwedd sain electronig cefndirol ac yn cynnwys ambell ennyd o gerddoriaeth jazz a big band, a golyga hyn bod modd i'r dawnswyr fod yn amryddawn ac arddangos eu personoliaethau unigol. Dilynir y perfformiad gan sesiwn holi ac ateb pryd y caiff y plant holi'r dawnswyr ynghylch y sioe, ynteu eu bywyd fel dawnswyr.

Amserau

18 Chwefror 7.30yh
19 Chwefror 7.30yh
18 Chwefror 1.30yh (perfformiad Matinee Rhyngweithiol i'r Teulu)

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Galeri

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cam nesaf ein Cynllun Cyfarwyddwyr JMK. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Rhagf… https://t.co/Nc21wExmwR
Mon, 20 Nov 2017