Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno tair sioe ddawns ddeinamig gan goreograffwyr o safon fyd-eang a doniau lleol. Cafodd gwaith Stephen Petronio, Water Stories, a gaiff berfformio i gyfeiliant cerddoriaeth wreiddiol y cyfansoddwr Atticus Ross (The Girl with the Dragon Tattoo) sydd wedi ennill Gwobrau Grammy a'r Academi, ei ysbrydoli gan dirwedd dŵr toreithiog a hudolus Cymru ac mae'n cynnwys darnau gweledol gwreiddiol gan Matthew Brandt.
Mae Lee Johnston a'r dylunydd goleuo Joe Fletcher yn cyflwyno They Seek To Find The Happiness They Seem, deuawd sy'n defnyddio ffurfiau ar goreograffi, goleuo a dylunio gwisgoedd i ymchwilio i berthynas sy'n datgymalu ac yn gwahanu.
Mae Mythology, gwaith Stephen Shropshire sy'n ysgogi'r meddwl, yn waith sy'n eich cyfareddu a chaiff ei ategu gan Coming Together gan Frederic Rzewski's, cyfansoddiad avant-garde ar gyfer y piano, ensemble jazz a'r gair llafar.
@NDCWales
Matinee Rhyngweithiol (11 Chwe) 1.00yh (£5)
Mae Matinee Rhyngweithiol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud yn union yr hyn a ddywed ar y tun.
I blant 9+ oed, mae hwn yn gyflwyniad gwych i ddawns gyfoes mewn amgylchedd theatr agored a hamddenol.
I archebu cysylltwch â participation@ndcwales.co.uk neu ffoniwch 029 2063 5612