Dance Touring Partnership yn cyflwyno Fabulous Beast Dance Theatre

The Rite of Spring a Petrushka

Dyddiadau

8 & 9 Ebrill

Prisiau

£15 - £25
Gostyngiadau: £2 i ffwrdd
Dan 25: Hanner pris

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'n cynnwys noethni a delweddau rhywiol
Oedrannau 16+
Trafodaeth wedi-sioe: 8 Ebrill

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Mae dau hanner perfformiad theatr ddawns gyffrous Michael Keegan-Dolan yn wrthgyferbyniad o oleuni a thywyllwch sy’n adlewyrchu cerddoriaeth Stravinsky o'r un enw.

Mae'r delweddau yn The Rite of Spring yn dywyll, yn syfrdanol, yn dreisgar ac yn rhywiol. Caiff elfennau rhythmig y gerddoriaeth eu chwarae yn y golygfeydd o ddefod ffrwythlondeb baganaidd, pan gaiff oed ei aberthu a phan gaiff mam y ddaear ei haddoli.

Mewn gwrthgyferbyniad mae Petrushka yn olau ac yn ysgafn. Ceir ynddi elfennau o ddawnsio gwerin a dyddiau cynhesach wrth i gyplau ddawnsio i ennyn cymeradwyaeth eu hynafiaid. Wedi'u perfformio gan gast rhyngwladol o 14 o ddawnswyr, mae'r ddau ddarn o waith yn ddehongliadau theatraidd o gerddoriaeth wreiddiol a greodd gymaint o ddicter a chyffro ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Mae’n cynnwys noethni a delweddau rhywiol

Oedrannau 16+

@DanceTP

Darganfod mwy...

Amserau

The Rite of Spring & Petrushka - Theatr 1  
Dydd Mawrth 8 Ebrill 7.30yh
Dydd Mercher 9 Ebrill 7.30yh

Adolygiadau

"There's no doubting the spell of Keegan-Dolan's imagination"
The Guardian

"Glorious"
The Independent

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Galeri

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Cwrdd ag Aggie a Nene wrth iddynt ddeffro a pharatoi ar gyfer diwrnod newydd ym mhentref Pyng-Hyga. https://t.co/h4WDP7H3Nx
Wed, 22 Nov 2017