Stori annwyl a chwareus am berthyn ac am gyfeillgarwch.
Ymunwch ag antur gyffrous yr Hwyaden Fach Hyll sy’n clegar ac yn siglo’i ffordd drwy awyr las y Gwanwyn, haul braf yr Haf, dail lliwgar yr Hydref ac eira oer y Gaeaf. Yn ystod yr antur fawr bydd ein harwr yn cwrdd â llu o gyfeillion ar hyd y daith cyn dod o hyd i hapusrwydd gyda ffrindiau newydd.
Mae hon yn sioe deuluol arbennig sy’n llawn dychymyg a cherddoriaeth. Peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld dros gyfnod y Nadolig.
Lawrlwytho Pecyn Gweithgareddau Yr Hwyaden Fach Hyll
A pheidiwch ag anghofio i archebu eich Llythyrau Siôn Corn!
Perfformiadau Hamddenol
Mae Theatr y Sherman yn cynnig Perfformiadau Hamddenol, ble gall plant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu, cyflwr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, Syndrom Down, sydd â nam ar y synhwyrau neu wrth gyfathrebu, deimlo’n gyfforddus braf mewn perfformiad sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer eu hangenion penodol nhw.
Fel rhan o’r Perfformiadau Hamddenol bydd Theatr y Sherman yn cynnig Straeon Gweledol, ymweliadau ymgyfarwyddo, man arbennig i ymlacio, a staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, fydd ar gael gydol yr ymweliad.
Cast
![]() |
![]() |
![]() |
Iwan Charles | Anni Dafydd | Gwenllian Higginson |