Theatre Sherman a Theatr Iolo

Dillad Newydd Yr Ymerawdwr

Emperor_main

Dates

5 Tachwedd / 7 - 30 Rhagfyr
Stiwdio

Prices

£8
Ysgolion: £6

More information

Gan Hans Christian Anderson
Ysgrifennwr Alun Saunders
Cyfarwyddwr Kevin Lewis
Cynllunydd Charlotte Neville
Cynllunydd Goleuo Rachel Mortimer

Stiwdio

Oedrannau 3 - 6

Cymraeg

Hyd y perfformiad: 45 munud, dim egwyl

  • Show Information
  • Show Times
  • Reviews
  • Cast & Team

Show Information

Wyt ti erioed wedi colli rhywbeth? Tegan? Dant? Atgof?

Beth petaet ti'n colli pob diferyn o wiriondeb?

Mae'r hen Ymerawdwr yn mynnu dillad mwyaf cwl y deyrnas er mwyn cynnal ei enw da fel yr arweiniwr ffasiwn mwyaf, wel, 'cwl'! Pan ddaw'r Gwehyddion cyfrwys i'r fei, mae eu cynllun twp yn bygwth 'dinoethi' un o gyfrinachau mwyaf trist y dyn mawr.

Cyflwyna Sherman Theatre a Theatr Iolo Dillad Newydd yr Ymerawdwr / The Emperor's New Clothes - dehongliad newydd sbon Alun Saunders o glasur Hans Christian Andersen. Gyda chaneuon a cherddoriaeth fyw, mae 'na rywbeth yma i'r holl deulu y Nadolig hwn.

Oedrannau 3 - 6

 

LLYTHYR ODDI WRTH SION CORN

Byddwn yn rhannu rhywfaint o hud nadoligaidd eleni eto drwy gynhyrchu lythyral personol arbennig oddi wrth Siôn Corn. Am ragor o wybodaeth clicliwch yma.

 

Pecyn Gweithgareddau

Rydym wedi creu’r pecyn gweithgareddau i roi cipolwg i chi o’r byd a gaiff ei greu yn y sioe. Cynlluniwyd y pecyn ar gyfer athrawon, rhieni a gofalwyr i’w ddefnyddio cyn ac ar ôl gweld y sioe, yn yr ystafell ddosbarth neu yn y cartref.

Gellir addasu’r gweithgareddau yn y pecyn i gyd-fynd ag oedran a gallu pob disgybl neu blentyn. Mae’n gyflwyniad creadigol i sawl agwedd o’r theatr – o ddrama a cherddoriaeth, i gelf a dylunio – gan gynnwys gwaith byrfyfyr, defnyddio’r dychymyg ac adrodd straeon.

Gallwch lawrlwytho'r pecyn gweithgareddau yma.

 

Gweithgareddau Teuluol ar gyfer ddysgwyr

Ar yr 20fed o Rhagfyr am 1.30pm bydd cyfle gwych i deulouoedd sydd yn dysgu Cymraeg i ymuno â ni cyn y sioeau Cymraeg i fwynhau gweithgareddau difyr wedi eu cynllunio’n arbennig ar eu cyfer. Bydd cyfle i ddysgwyr o bob oedran ehangu eu dealltwriaeth o eirfa a stori y sioe a mwynhau ar yr un pryd! Mae’r gweithgaredau teuluol cyn y sioe yn rhad ac am ddim ond mae angen bwcio eich lle wrth cysylltu â'r swyddfa docynnau ar 029 2064 6900

Dydd Mawrth 20fed Rhagfyr

Gweithgareddau: 12.30pm - 1.10pm (AM DDIM)

Sioe - 1.30pm

Show Times

 

Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd 1.30pm  
Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 1.30pm Tocynnau prin
Dydd Iau, 8 Rhagfyr 11.00am Wedi gwerthu allan
Dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr 11.00am  
Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 1.30pm Tocynnau prin
Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 11.00am Tocynnau prin
Dydd Iau, 15 Rhagfyr 1.30pm  
Dydd Mawrth, 20 Rhagfyr 1.30pm  
Dydd Gwener, 23 Rhagfyr 11.00am  
Dydd Mercher, 28 Rhagfyr 1.30pm  
Dydd Gwener, 30 Rhagfyr 11.00am  

 

Reviews

“Dyma ddrama i godi’r galon; y sioe berffaith dros y tymor ewyllys da.” Arts Scene in Wales

★★★★★ “An entirely charming hour of entertainment.” South Wales Echo

“A wonderful show for the young and young at heart… 10 out of 10!” Quench Magazine

“A wonderful delight of a Christmas show” Children’s Theatre Reviews

“Highly recommended for under-sevens of all ages.” British Theatre Guide

Cast & Team

Kare / Yr Ymerawdwr Geraint Rhys Edwards

Mor / Olga Elin Phillips

Far / Luka Tobias Weatherburn

Cyfarwyddwr Kevin Lewis

Gan Hans Christian Andersen

Addasiad gan Alun Saunders

Cynllunydd Charlotte Neville

Cyfarwyddwr Cerdd Dan Lawrence

Cynllunydd Goleuo Rachel Mortimer

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Emily Stroud

Cyfarwyddwr Corfforol Jem Treays


Gallery

Latest tweets

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017