UK Arts International: Afrovibes Festival

Sibikwa African Indigenous Orchestra

Dyddiadau

18 Hydref

Prisiau

£12 | Gostyngiadau: £10
Dan 25: Hanner Pris

Gostyngiadau ar gael pan fyddwch yn prynu tocynnau ar gyfer mwy nag un digwyddiad Gwyl Afrovibes.

Gwybodaeth ychwanegol

Afrovibes: gwyl a gynhelir bob dwy flynedd yw hon sy’n gyforiog o theatr, dawns a cherddoriaeth, gan roi cyfle i ymwelwyr fwynhau perfformiadau cyfoes gorau De Affrica.

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Gostyngiadau ar gael pan fyddwch yn prynu tocynnau ar gyfer mwy nag un digwyddiad Gwyl Afrovibes.
2-3  15% i ffwrdd
4-5  20% i ffwrdd
6     25% i ffwrdd
ARCHEBWCH AR LEIN NAWR

The Sibikwa Arts African Indigenous Orchestra

Addas ar gyfer oed 7+

Mae Cerddorfa ddeg-darn fywiog Sibikwa yn rhoi gwledd o rythmau a churiadau bywiog i’r gynulleidfa – enghraifft wych o gerddoriaeth bontio. Mae’r perfformiad yn cynnwys lefelau uchel o gyfranogiad gan y gynulleidfa gyda phawb ar eu traed (yn aml ag offeryn yn eu llaw) wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn gwledd i’r synhwyrau, gan adfywio’u blas am gerddoriaeth, a galw ar wir ysbryd ac etifeddiaeth De’r Affrig.

Mae’r gerddorfa hon wedi ennill gwobrau lu ac mae’n dathlu’r traddodiadol a’r newydd. Yn ei gwaith ceir taith soniarus o suo ysgafn i jazz ac affrobît fywiog y trefgorddau.

Gwelir aelodau’r gerddorfa graidd yn chwarae offerynnau traddodiadol fel yr Uhadi (offeryn bwa Affricanaidd), cyrn, drymiau, pibau dinaka, marimba a mbira. Ar gyfer yr Afrovibes daw tri cherddor jazz i’r llwyfan, ac mae eu cyd-harmonïau yn archwilio’r arddull jazz unigryw a ychwanegir at gyfansoddiadau Affricanaidd gwreiddiol.

Mwy o wybodaeth: www.afrovibes2012.co.uk
 
Afrovibes Festival

 

Amserau

The Sibikwa Arts African Indigenous Orchestra - Theatre 1

Dydd Iau 18 Hydref 7.30yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Cyfarwyddwr Artistig:
Phyllis Klotz Orchestra

Arweinydd y Gerddorfa:
Thokozani Nkabinde


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017