Cyngerdd Lee Mead

LeeMead

Dyddiadau

4 Mai

Prisiau

£25

Gwybodaeth ychwanegol

'Rydym hefyd yn cynnig pecynnau Te P'nawn:
Pecyn Te Pnawn (te a sgon a thocyn): £30
Pecyn Te Pnawn Pefriol (te, sgon a gwydraid o Prosecco a thocyn): £32

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Mae Lee Mead yn fwyaf adnabyddus am ennill y rhaglen deledu Any Dream Will Do, gan fynd yn ei flaen i serennu yn Joseph yn y West End yn Llundain. Mae hefyd wedi chwarae rhannau canolog yn Wicked a Legally Blonde, ac ‘roedd yn un o sefydlwyr y sioe gyngerdd The West End Men a berfformiwyd yn Theatr y Vaudeville Llundain, drwy Brydain benbaladr, a thramor.

Yn dilyn ei berfformiad hynod lwyddiannus fel Jack yn y pantomeim Jack in the Beanstalk llynedd, mae Lee wedi bod yn perfformio yn Robin Hood yn y Theatre Royal yn Plymouth yn ystod mis Rhagfyr a Ionawr.

Mae Lee wedi bod yn teithio ei sioe gyngerdd lwyddiannus o amgylch y wlad ers 3 mlynedd bellach, ond hyd yma nid yw wedi cael y cyfle i berfformio yn Sherman Cymru. Felly dewch i ymuno â Lee a'i fand rhagorol yng Nghaerdydd am noson o gerddoriaeth fendigedig, fydd yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd yn ogystal â rhai o hoff ganeuon Lee ei hun. Peidiwch â cholli’r cyfle yma!

'Rydym hefyd yn cynnig pecynnau Te P'nawn:

Pecyn Te Pnawn (te a sgon a thocyn): £30
Pecyn Te Pnawn Pefriol (te, sgon a gwydraid o Prosecco a thocyn): £32

 

Amserau

Cyngerdd Lee Mead : Theatr 1  
Dydd Sul 4 Mai 6.30yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Cyfle olaf i weld Hud y Crochan Uwd allan ar daith wythnos yma gyda sioeau yn @GartholwgLLC @MaestegTownHall… https://t.co/gXWtrbbrgk
Sun, 19 Nov 2017