Sherman Cymru

Sesiwn Foyer: Huw M & Kizzy Crawford

Dyddiadau

11 Gorffennaf

Prisiau

Free

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth fyw, yn rhad ac am ddim, yn ein Sesiynau Cyntedd nesaf. Dewch i'r Sherman a mwynhewch Huw M a Kizzy Meriel Crawford yn perfformio yn y cyntedd.

Cantores 16 mlwydd oed, sydd hefyd yn ysgrifennu caneuon, yw Kizzy Meriel Crawford. Mae'n byw ym Merthyr Tydfil.

Daw ei theulu'n wreiddiol o Rydychen a Barbados, ond magwyd Kizzy yng Ngorllewin Cymru, ac mae wedi gwirioni ar yr iaith ac ar ddiwylliant Cymru. Fel artist du o Gymru ei huchelgais yw gwneud ei marc drwy gyfuno cerddoriaeth werin/ffync o Gymru - mae pethau'n argoeli’n dda gan fod gwaith Kizzy eisoes yn adnabyddus yng Nghymru, ac yn cael ei chwarae’n gyson ar BBC Radio Wales.

Cyfansoddwr a pherfformiwr o Gymro yw Huw M. Yn ymuno â Huw Meredydd Roberts ar gyfer y perfformiad mae Lucy Simmonds ar y soddgrwth, a bydd Bethan Mai yn canu ac yn chwarae nifer o offerynnau gwych. Ar y cyd maent yn chwarae cymysgedd o felodïau gwreiddiol a chaneuon gwerinol traddodiadol o Gymru, wedi’u cyfuno â dylanwadau o bedwar ban byd er mwyn creu cerddoriaeth 'swynol a deallus'.

Cyfeiriodd Stuart Maconie ar BBC 6 Music at sengl gyntaf Huw M fel 'Darn o gerddoriaeth hynod o drawiadol'. Canmolwyd ei albwm solo cyntaf yn arbennig gan y beirniaid, gan gynnwys adolygiad 4 seren ym mhapur newydd y Times. Cafodd ail albwm Huw M, Gathering Dusk, ei chynnwys ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Cymru 2012.

#FoyerSession
@ShermanSofa

Amserau

Sesiwn Foyer: Huw M & Kizzy Crawford  
Dydd Iau 11 Gorffennaf 8.00yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @keironself: Wow @HowToWinAgainst @ShermanTheatre is genius! Superb show very very funny and moving. Beg borrow and steal to get a ticke…
Fri, 17 Nov 2017