Taith Yr Dywysoges a'r Bysen Fechan Fach

23 Hyd 2015

Mewn teyrnas hudol, ymhell bell i ffwrdd, fe drigai Tywysog. Unig ddymuniad y Tywysog oedd priodi Tywysoges. Un noson, wrth i'r mellt fflachio a chlapio, wrth i'r gwynt chwyrlïo a chwyno, daw cnoc ar ddrws y castell a chaiff merch ei chwythu i mewn...ond does bosib fod hon yn Dywysoges?

Dim ond un ffordd sydd i ganfod y gwir...ESTYN Y BYSEN FRENHINOL a'i chuddio o dan y fatras! Dim ond Tywysoges go iawn fyddai’n gallu teimlo peth mor fach yn cuddio yno!

Ymunwch â Sherman Cymru a Theatr Iolo y Nadolig hwn am ail-gread llawn direidi o un o straeon tylwyth teg enwog Hans Christian Andersen.

Dyma stori llawn hwyl, cerddoriaeth, a digon o hud a lledrith, ac mae hi'n berffaith i blant 3 i 6 oed a'u teuluoedd.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Join us today at Sherman Theatre betweeb 10.30am – 5pm for a day of free fun activities as we celebrate the inspiri… https://t.co/MBzqJ9jJXB
Sat, 21 Jul 2018