Sherman Cymru yn Lansio Rhaglen Dramodwyr Cymreig Newydd

10 Maw 2016

Mae’r Sherman yn lansio Rhaglen Dramodwyr Cymreig Newydd ynghyd â Gwobr Richard Carne o £1,000, a noddir gan Ymddiriedolaeth Richard Carne. Bydd y rhaglen yn dewis 12 dramodydd newydd cyffrous o Gymru a thros 8 wythnos cynnal gweithdai a sesiynau hyfforddiant er mwyn datblygu eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer y theatr, dan arweiniad Brad Birch (Royal Court, Sherman Cymru, Soho Theatre). Trwy’r cymorth yma o ran yr elfennau dramayddiaeth, bydd cyfle i’r dramodwyr gyflwyno drama llawn. Bydd y 12 ddrama yma yn cael ei ddarllen gan y Sherman a bydd un yn cael ei ddewis i dderbyn Gwobr Richard Carne o £1,000. Ynghyd â’r arian, bydd y wobr yn cynnig y posibiliad o ddatblygu’r ddrama yn bellach yn y Sherman.

Disgwylir i’r rhaglen ddechrau ym mis Mai 2016 a pharhau am wyth sesiwn. I gael eich ystyried ar gyfer y Rhaglen, anfonwch o leiaf 20 tudalen o’ch gwaith ysgrifenedig ar gyfer y llwyfan. Gall hyn fod yn ddarn byr cyflawn neu’n rhan o ddrama hwy. Rydym yn gwahodd pob awdur 18 oed a hŷn i gyflwyno cais; yr unig ofynion yw bod y dramodydd naill ai’n hanu o Gymru neu’n byw yng Nghymru.

Anfonwch eich ceisiadau at literary@shermancymru.co.uk ynghyd â’ch enw a manylion cyswllt erbyn canol dydd ar 22 Ebrill.

Defnyddiwch Rhaglen Dramodwyr Cymreig Newydd ar gyfer pwnc eich e-bost. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn nodi’r pwnc hwn yn cael eu derbyn.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Like your favourite bowl of porridge, The Magic Porridge Pot will leave you with a wonderfully warm glow this Chris… https://t.co/vUJuSjaKzY
Tue, 21 Nov 2017