How My Light Is Spent Cast

07 Maw 2017

Cyhoeddwyd y bydd pâr eithriadol o actorion Cymreig, Rhodri Meilir a Alexandria Riley yn chwarae’r prif rannau yn How My Light Is Spent gan y dramodydd o Gaerdydd, Alan Harris. Cydgynhyrchiad yw hwn rhwng Theatr y Sherman, Royal Exchange Theatre a Theatre by the Lake. Bydd y ddrama ddoniol, llawn gobaith hon ynghylch cyfeillgarwch, unigrwydd, dyhead a chael eich gadael ar ôl yn cael ei pherfformio yng Nghymru am y tro cyntaf yn y Sherman ym mis Mai. Enillodd How My Light Is Spent Wobr y Beirniaid yng Ngwobrau Bruntwood 2015, sef cystadleuaeth ysgrifennu dramâu fwyaf Ewrop.

Pob nos Fercher, mae Jimmy’n ffonio Kitty. Am naw munud yn union. Am £1.20 y funud. Mae Jimmy yn 36 oed, yn byw gyda’i fam ac yn gweithio yn unig fwyty toesenni ‘gyrru-drwodd’ Casnewydd. Gweithiwr rhyw dros y ffôn yw Kitty sy’n byw mewn fflat mam-gu sy’n eiddo i rywun sy’n gwirioni ar docwaith. Roedd pethau’n edrych yn addawol i Jimmy pan gyfarfu â Kitty am y tro cyntaf, ond yna mae’n colli ei swydd yn y bwyty ac mae’n dechrau cael teimlad gogleisiol rhyfedd yn ei fysedd.

Rhordi Meilir

Rhodri Meilir, un o’r actorion Cymreig mwyaf adnabyddus ar deledu a ffilm fydd yn chwarae rhan Jimmy. Mae’n adnabyddus am ei ran yn y comedi sefyllfa hirhoedlog a phoblogaidd My Family. Mae ei waith helaeth i deledu yn cynnwys Afterlife, Terry Pratchett’s Hogfather, Doctor Who, Y Pris, Caerdydd, Teulu, Tipyn o Stad, Cyw a'r Gwyll. Enwebwyd Rhodri am wobr BAFTA am ei berfformiad yn chwarae’r brif ran, Trefor yn Gwlad yr Astra Gwyn yn 2013. Yn fwyaf diweddar roedd Rhodri ar y teledu yn Byw Celwydd. Mae gwaith blaenorol Rhodri ym myd ffilm yn cynnwys rhan yn Pride, ffilm hynod boblogaidd Matthew Warchus.

Mae Rhodri wedi gweithio’n rheolaidd ar lwyfan i gwmnïau yn cynnwys HOME Manchester, Liverpool Everyman, National Theatre Wales, Theatr Bara Caws a Theatr Genedlaethol Cymru.

Alexandria Riley

Alexandria Riley sy’n chwarae rhan Kitty, a graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2016. Ganwyd Alex yng Nghasnewydd, lleoliad y ddrama, ac mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys cynhyrchiad Theatr y Sherman o All That I Am a berfformiwyd gan Gwmni Richard Burton fel rhan o NEWYDD: 2016 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Gate Theatre, Llundain. Mae ei gwaith blaenorol arall yn cynnwys The Wild Sargasso Sea, BBC Radio Wales, Britt-Marie was Here, BBC Radio, ochr yn ochr â Pippa Haywood, a phrif ran mewn cyfres radio adnabyddus sydd i’w chyhoeddi’n fuan. Yn ddiweddar cafodd adolygiad pum seren yn The Stage am ei rhan yn chwarae Camae yn The Mountaintop gan Katori Hall yn The Other Room, Caerdydd, sydd i fod i fynd ar daith ym mis Hydref 2017.

Ysgrifenwyd How My Light Is Spent gan Alan Harris a’i chyfarwyddo gan Liz Stevenson a enillodd Wobr Cyfarwyddwr Ifanc JMK. Bydd y ddrama yn cael ei pherfformio yng Nghymru am y tro cyntaf yn y Sherman rhwng 16 – 27 Mai yn dilyn perfformiadau yn y Royal Exchange Theatre, Manceinion rhwng 24 Ebrill – 13 Mai, ac yn olaf yn y Theatre by the Lake rhwng 31 Mai – 24 Mehefin.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017