CYHOEDDIAD: GWANWYN 2017 YN THEATR Y SHERMAN

07 Rhag 2016

• Ymysg yr uchafbwyntiau mae Killology, sef gwaith newydd gan Gary Owen (Iphigenia in Splott), a gaiff ei gynhyrchu gyda Royal Court Theatre

• Cydgynhyrchiadau eraill yn ystod y tymor gyda Royal Exchange Theatre, Manceinion a Theatre By The Lake, ac Òran Mór.

Love, Cardiff i gyflwyno storïau’r ddinas ar y llwyfan, gyda pherfformiad gan gast cymunedol mawr

Theatr y Sherman fydd y theatr gynhyrchu gyntaf yng Nghymru i gyd-gynhyrchu sioe gyda’r Royal Court Theatre, Llundain, gyda’r dangosiad cyntaf yn y byd o Killology gan Gary Owen, fel rhan o’u gwaith ar gyfer tymor y gwanwyn. Mae’r tymor yn cynnwys saith dangosiad cyntaf yn y byd, nifer o gyd-gynhyrchiadau a phartneriaethau mewn ysgrifennu newydd a chynhyrchiad cymunedol newydd ar raddfa fawr. Mae drama dywyll newydd Gary Owen, Artist Cyswllt y Sherman, yn archwilio perthynas cymdeithas fodern â gemau cyfrifiadurol, trais ar y rhyngrwyd, cyfiawnder a dial drwy brism profiad gemau newydd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr fyw eu ffantasïau tywyllaf. Mae’r cynhyrchiad hwn yn dwyn ynghyd y tîm rhagorol y tu ôl i Iphigenia in Splott, gyda Rachel O’Riordan yn cyfarwyddo’r dangosiad cyntaf, sy’n agor yn y Sherman cyn trosglwyddo i’r Royal Court. Cafodd Violence and Son, a enillodd wobrau i’r awdur, ei llwyfannu yn Theatr y Royal Court yn 2015.

Mewn tymor sy’n hyrwyddo artistiaid a thalent o Gymru yng Nghymru a thu hwnt, bydd y Sherman yn uno â’r Royal Exchange, Manceinion unwaith eto, ynghyd â Theatre by the Lake, i gyflwyno How my Light is Spent, gan y sgriptiwr o Gymru, Alan Harris, ac wedi’i chyfarwyddo gan Liz Stevenson, enillydd gwobr JMK. Mae’r gwaith newydd hwn, a enillodd Wobr y Beirniaid yng Ngwobr Bruntwood 2015, yn edrych ar unigrwydd drwy fywydau dyn yn ei dridegau sy’n byw gyda’i Fam a gweithiwr rhyw-dros-y-ffôn. Dyma’r ail gydgynhyrchiad rhwng y Sherman a’r Royal Exchange Theatre, Manceinion, yn dilyn llwyddiant Bird yn 2016.

Gydag Òran Mór o Glasgow, bydd Theatr y Sherman yn cyd-gynhyrchu sioe newydd A Play, A Pie and A Pint, sef World Domination gan Lesley Clark a gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, darn wedi ei ysgrifennu gan Artist Cyswllt y Sherman, Conor Mitchell a’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cyswllt y Sherman, Gethin Evans fel rhan o dymor NEWYDD 2017.

Ym mis Ionawr 2016, cyflwynodd Theatr y Sherman Home, gan ddwyn storïau cymuned Waulah Caerdydd i’r llwyfan, wedi’i pherfformio gan aelodau o’r gymuned. Eleni, rhoddir bywyd i brofiadau a storïau dinasyddion Caerdydd unwaith eto gan gast cymunedol a thîm creadigol proffesiynol, ar Brif Lwyfan Theatr y Sherman. Mae Love, Cardiff, yn archwilio storïau City Road o’r barbwyr i’r siopau bwyd cyflym, y siop rhyw i’r cyfarwyddwyr angladdau.

Mae’r rhaglen guradurol y tymor hwn yn cynnwys The Moot Virginity of Catherine of Aragon gan Conor Mitchell a Pink Mist gan Owen Sheers. Mae’r gwaith Cymraeg yn cynnwys Yfory, sef cynhyrchiad Bara Caws o ddrama newydd gan Sion Eirian, a dangosiad cyntaf yn y byd o opera Gymraeg newydd gan Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru, sef Y Tŵr, fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Bro Morgannwg. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno rhaglen ddwbl o ddawns sy’n cynnwys darn newydd gan Caroline Finn, y Cyfarwyddwr Artistig. Caiff cynulleidfaoedd ifanc fwynhau The Scarecrows' Wedding gan Julia Donaldson, drwy grewyr Stick Man.

Dywedodd Rachel O’Riordan, y Cyfarwyddwr Artistig: “This season at the Sherman has vibrant new work at its heart. We are delighted to be creating theatre with extraordinary writers, directors and theatre makers, and to have Welsh talent at the heart of what we do. This season sees us partner with new writing powerhouse the Royal Court, and once more with the Royal Exchange Theatre. We will take our work to international platforms. The Sherman is looking forward, with ambition and passion.”

 

TYMOR Y GWANWYN 2017

24-28 Ion
The Belfast Ensemble
THE MOOT VIRGINITY OF CATHERINE OF ARAGON

2-4 Chwe
Nick Williams & Bristol Old Vic
PINK MIST

7-14 Chwe
RWCMD
WASTWATER

15 Chwe
Lakin McCarthy, Mark Thomas & West Yorkshire Playhouse
MARK THOMAS: THE RED SHED

23–25 Chwe
Sherman Youth Theatre
ZERO FOR THE YOUNG DUDES

1–3 Mawrth
Theatr Bara Caws
YFORY

7-11 Mawrth
Sherman Theatre & Oran Mor
A PLAY, A PIE AND A PINT: WORLD DOMINATION

7 Mawrth
Opera Dinas Abertawe
LAKME

8 Mawrth
RUBY WAX: FRAZZLED

24 Mawrth – 8 Ebr
Sherman Theatre & Royal Court
KILLOLOGY

28-31 Mawrth
Sherman Theatre, RWCMD and Paines Plough
NEW 2017

1 Ebr
Soho Theatre
PANTI BLISS

13 – 15 Ebr
Sherman Theatre, Cardiff Story Museum and Madeinroath
LOVE, CARDIFF

20–22 Ebr
National Theatre
NT CONNECTIONS FESTIVAL 2017

25 Ebr
BRIDGET CHRISTIE

28 & 29 Ebr
NDCWales
SPRING TOUR 2017: PROFUNDIS | THE GREEN HOUSE

2–6 Mai
National Theatre
MY COUNTRY

16–27 Mai
Sherman Theatre, Royal Exchange Theatre & Theatre by the Lake
HOW MY LIGHT IS SPENT

19 & 20 Mai
A Music Theatre Wales & Theatr Genedlaethol production originally presented by Sherman Theatre and the Vale of Glamorgan Festival 2017
Y TŴR

7 & 8 Meh
Scamp Theatre & Watford Palace Theatre
THE SCARECROWS’ WEDDING

 

NADOLIG 2017

1-30 Rhag
Theatr y Sherman
THE WIND IN THE WILLOWS

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017