Cyhoeddiad Cast Bird

04 Ebr 2016

Pleser gennym cyhoeddi cast ar gyfer Bird, cyd gynhyrchiad Theatr y Sherman a Royal Exchange Theatre. Bydd y perfformiad cyntaf yn Caerdydd 13 - Mai 28, cyn mynd i'r Royal Exchange Theatre, Manceinion 8-25 Mehefin.

Dyma’r perfformiad cyntaf byd-eang o Bird, drama newydd farddonol drawiadol gan yr awdur Cymreig, Katherine Chandler, a enillodd y Judges Award yn y Bruntwood Prize for Playwriting yn 2013. Y cyfarwyddwr yw Cyfarwyddwr Artistic Sherman Cymru, Rachel O’Riordan, ac mae’n stori o gyfeillgarwch nad oes modd ei atal.

Mae Ava a Tash ar ben clogwyn. Yn edrych ar yr adar yn heidio. Ac ar eu dyfodol. Wrth iddynt agosáu at fod yn oedolion a gadael y cartref gofal a fu’n adnabyddus iddynt cyhyd, mae’r ffrindiau’n profi eu rhyddid ac yn ymarfer byw yn y byd. Mae Ava yn wynebu’r fam a adawodd ar ôl. Mae Tash yn edrych am gartref. Ac mae’r ddwy’n byw’n beryglus gyda’r dynion sydd o’u hamgylch.

Cignoeth, tyner a mentrus. Dyma stori am dyfu i fyny y tu allan i deulu ond o fewn cyfeillgarwch angerddol.

I archebu tocynnau cliciwch yma

Bird cast_names

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cam nesaf ein Cynllun Cyfarwyddwyr JMK. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Rhagf… https://t.co/Nc21wExmwR
Mon, 20 Nov 2017