Cyfleoedd Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ar Gynyrchiadau Nadolig y Sherman

02 Med 2016

Mae'n bleser gan Theatr y Sherman gynnig dau gyfle i Gyfarwyddwyr Cynorthwyol dan hyfforddiant i gefnogi ein cynyrchiadau Nadolig hynod lwyddiannus yn 2016. Bydd cyfleoedd ar gael i gynorthwyo ar gynhyrchiad The Borrowers (wedi'i greu ar gyfer cynulleidfa deuluol dros 7 oed) ar brif lwyfan Theatr y Sherman ac ar ein cydgynhyrchiad gyda Theatr Iolo o Dillad Newydd yr Ymerawdwr/The Emperor's New Clothes (wedi'i anelu at y grŵp oedran 3-6 oed a'u teuluoedd).

Nodir manylion llawn y swyddi yma.

Dyddiad cau: canol dydd ar 15 Medi 2016.

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 19 Medi.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Cyfle olaf i weld Hud y Crochan Uwd allan ar daith wythnos yma gyda sioeau yn @GartholwgLLC @MaestegTownHall… https://t.co/gXWtrbbrgk
Sun, 19 Nov 2017