Cyhoeddiad cast ar gyfer Killology

17 Chwe 2017

Bydd Seán Gleeson, Richard Mylan a Sion Daniel Young yn chwarae’r tair rhan yn nrama newydd Gary Owen Killology, cydgynhyrchiad rhwng y Royal Court Theatre, Llundain a Theatr y Sherman, Caerdydd.

Mae Sion Daniel Young yn ymuno â’r sioe ar ôl chwarae’r brif ran, Christopher, yng nghynhyrchiad Marianne Elliot o The Curious Incident of the Dog in the Night-Time yn y West End. Mae gwaith blaenorol Sion yn cynnwys chwarae Albert yn War Horse (National Theatre/West End) a Siegfried Sassoon yn Mametz ar gyfer National Theatre of Wales (Cyfarwyddwr: Matthew Dunster).

Yn ymuno â Sion bydd Seán Gleeson sydd, ymysg ei reolau niferus yn y theatre, wedi chwarae rhan Ed Boone (tad Christopher) yn The Curious Incident of the Dog in the Night-Time a Brendan yn The Weir yn y Royal Court Theatre, a bu hefyd yn aelod cyson o gast Doctors gyda’r BBC. Yn cwblhau’r cast mae Richard Mylan, sydd wedi gweithio’n helaeth ym myd y theatr, ffilm a theledu (yn cynnwys chwarae rhan Oliver yng nghomedi sefyllfa Coupling y BBC) ers ei ymddangosiad cyntaf yn y West End yn 1992, ac yn benodol mewn amryw o gynyrchiadau gyda Frantic Assembly. Gweithiodd gyda Gary Owen a Chyfarwyddwr Artistig y Royal Court Theatre, Vicky Featherstone am y tro cyntaf ar Crazy Gary's Mobile Disco ar gyfer Paines Plough yn 2001.

Mae Killology yn dod â’r tîm ysgrifennu/cyfarwyddo llwyddiannus a greodd Iphigenia in Splott yn ôl at ei gilydd; y dramodydd Cymreig Gary Owen, a Chyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Rachel O’Riordan. Gan fynd i’r afael â phrofiadau sy’n wynebu dynion ifanc yn y gymdeithas gyfoes, mae Killology yn sôn am brofiad chwarae gemau newydd dadleuol sy’n ysbrydoli cenhedlaeth. Yn Killology, caiff chwaraewyr eu gwobrwyo am arteithio dioddefwyr, gan sgorio pwyntiau am "greadigrwydd". Mae’n cychwyn yn Theatr y Sherman rhwng 24 Mawrth – 8 Ebrill gyda noson i’r Wasg ar ddydd Mawrth 28 Mawrth cyn agor yn y Royal Court Theatre, Llundain rhwng 25 Mai - 24 Mehefin gyda noson i’r Wasg ddydd Mawrth 30 Mai 2017.

Mae Gary Owen yn dychwelyd i’r Royal Court Theatre yn dilyn ei ddrama lwyddiannus (Gwobr Theatr yr Evening Standard 2015, Gwobr Critics Circle 2016 a Gwobr Olivier 2016) Violence and Son yn 2015. Cyfarwyddwyd drama flaenorol Owen ar gyfer Theatr y Sherman, Iphigenia in Splott gan Rachel O’Riordan ac enillodd Wobr UK Theatre am y Ddrama Newydd Orau 2015, Gwobr James Tait Black a Gwobr The Stage am Ragoriaeth mewn Actio yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2015. Enwebwyd y ddrama hefyd ar gyfer Gwobrau’r Evening Standard am yr Actores Orau ar gyfer portread Sophie Melville o Effie.

Dwedodd Cyfarwyddwr Rachel O’Riordan “I am delighted to be partnering with the powerhouse Royal Court theatre on Killology, and to be part of this extraordinary season of new work. Getting brilliant actors and a brilliant writer together is a powerful mix; and this team features some of our most exciting talent.”

Dwedodd yr Awdur Gary Owen “Since taking over at the Royal Court Vicky has worked hard to bring new voices to its stages. So it's entirely unsurprising that the Royal Court's first co-production with a Welsh theatre should happen under her reign. We've got a fantastic gang of actors, and I can't wait to see what Rachel's going to do with them.”

 

Killology Cast

      Seán Gleeson       Sion Daniel Young Richard Mylan 

 

Tocynnau ar gael yma.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

The cast has been announced for @_HighTide_ and @ClwydTweets's Heroine. We look forward to welcoming you all here… https://t.co/b27w2xd5RB
Wed, 16 Aug 2017