Sherman Cymru Unwaith Eto ar restr fer Gwobrau Cardiff Life

02 Chwe 2015

‘Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cardiff Life 2015 yng Nghategori’r Celfyddydau unwaith eto.

Yng Ngwobrau cyntaf Cardiff Life yn 2014, enillodd Sherman Cymru’r wobr yng Nghategori’r Celfyddydau, ac unwaith eto ‘rydym wrth ein boddau ein bod wedi ein cynnwys ar y rhestr fer mewn categori sy’n cydnabod safon uchel y celfyddydau sydd ar gael yng Nghaerdydd, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan y Celfyddydau Chapter, Music Theatre Wales, NoFit State, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Sinfonia Cymru.

‘Rydym hefyd yn falch o glywed fod Caffi a Deli Foxy, sy’n cyflenwi lluniaeth yn ein Café Bar, wedi eu cynnwys ar restr fer y Caffi/Siop Goffi Orau, a bod ein asiantaeth gyhoeddusrwydd, S3 Advertising, ar restr fer y ‘Best Creatives’ yng Nghaerdydd.

Cynhelir Gwobrau Cardiff Life ar ddydd Iau 19 o fis Mawrth.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Cwrdd ag Aggie a Nene wrth iddynt ddeffro a pharatoi ar gyfer diwrnod newydd ym mhentref Pyng-Hyga. https://t.co/h4WDP7H3Nx
Wed, 22 Nov 2017