Y Sherman yn lansio cyfnod cyflwyno dramâu agored i ddarganfod y gorau o ysgrifennu yn y Gymraeg

25 Ebr 2016

Yn 2016, mae’r Sherman eisiau darganfod ac ymgysylltu gyda sgwennwyr mwyaf cyffroes, arloesol a chyfoes yr iaith Gymraeg. Fel un o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Cymru gyda llwyddiant penodol mewn gwaith ysgrifennu newydd, rydym am sicrhau bod gwaith yn y Gymraeg yn rhan allweddol o uchelgeisiau’r Sherman yn y dyfodol. Trwy BRIG rydym am gynnig cyfnod cyflwyno dramâu agored er mwyn darganfod, datblygu ac arddangos y gorau o ysgrifennu yn y Gymraeg. Rydym yn chwilio am straeon perthnasol a dewr.

Yn dilyn y dyddiad cau, byddwn yn dewis un darn i gael ei ddatblygu dros gyfnod o 3 diwrnod dwys yn gorffen gyda darlleniad yma yn y Sherman, ac yna ar lwyfan genedlaethol yn ystod yr Eisteddfod, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst 2016.

Bydd y dramodydd buddugol yn derbyn ffi ar gyfer y cyfnod datblygu gyda thîm creadigol y Sherman cyn y darlleniad.

Dan arweiniad artistig Rachel O’Riordan mae’r Sherman wedi bod yn llwyddiannus gyda gweithiau newydd yn cynnwys Iphigenia in Splott (Gary Owen), All That I Am (Dafydd James) ac, yn agor yn fuan, Bird (Katherine Chandler), mewn cyd-gynhyrchiad gyda Royal Exchange, Manceinion.

Mae angen i’r dramâu sy’n cael eu cyflwyno fod rhwng 40 – 50 munud a dim mwy na 3 actor i’w berfformio.

Mae’r cyfnod cyflwyno agored yn agor ar Ddydd Llun 25 Ebrill ac yn cau am 5 y.h ar Ddydd Llun 6 Mehefin 2016. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ac/neu darn i’w gyflwyno, e-bostiwch literary@shermancymru.co.uk gyda BRIG Cyfnod Cyflwyno Agored fel y pwnc.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017