Iphigenia in Splott Sherman Cymru yn rhan o Sioe Arddangos y British Council

13 Mai 2015

Mae Sherman Cymru yn falch iawn bod Iphigenia in Splott, drama bwerus un fenyw a ysgrifennwyd gan Gary Owen, wedi cael ei dewis i fod yn rhan o Sioe Arddangos y British Council yng Ngŵyl y Fringe Caeredin 2015.

Mae Iphigenia in Splott yn un o dri chwmni yng Nghymru i gael ei ddewis gan y British Council i arddangos y gwaith eithriadol a gynhyrchir yng Nghymru.

Yn dilyn y perfformiad cyntaf erioed o’r ddrama yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, bydd Iphigenia In Splott gan Gary Owen yn cael ei pherfformio yn y Pleasance King Dome rhwng 24 a 30 Awst, am 1.50pm.

Mae’n amlwg bod y cynhyrchiad wedi dal dychymyg cynulleidfaoedd ac mae wedi bod mor boblogaidd yng Nghaerdydd nes bod pedwar dyddiad ychwanegol wedi ei drefnu i ymateb i’r galw.

Wedi’i hysbrydoli gan thema’r Fyth Roegaidd, mae addasiad y dramodydd Cymreig llwyddiannus Gary Owen yn canolbwyntio ar effaith toriadau lles ar y gymdeithas sydd ohoni. Gan gyfuno barddoniaeth fras ag iaith gynhenid y Sblot, mae drama Gary Owen yn dod a’r materion bythol i’r wyneb sy’n gwneud stori Iphigenia mor oesol.
Effiefeatured2Effiefeatured4
Mae Sophie Melville, sy’n raddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a oedd hefyd yn seren y sioe Romeo & Juliet gan Sherman Cymru, yn dychwelyd i Theatr y Sherman yn y sioe un fenyw heriol hon, sy’n feirniadaeth gref ddeifiol ar fywyd mewn cyfnod o gyni. Mae Effie yn treulio ei dyddiau mewn cwmwl diofal o alcohol, cyffuriau a drama.

Meddai Cyfarwyddwr Artistig Sherman Cymru, Rachel O’Riordan; “Rydym yn falch bod hon yn rhan o Sioe Arddangos y British Council yng Nghaeredin ac rydym wrth ein boddau gyda’r ymateb rydym wedi ei gael i’r perfformiad hyd yma yng Nghymru a’r ffaith ein bod wedi trefnu perfformiadau ychwanegol yma yng Nghaerdydd. Mae hon yn ddrama bwerus sy’n ymchwilio i brofiad menyw ifanc ar gyrion cymdeithas. Er bod y ddrama wedi ei lleoli yn un o faestrefi Caerdydd, rydym yn gweld menywod ifanc fel Effie bob dydd ar hyd a lled y DU. Mae Iphigenia in Splott yn ymchwilio i gyflwr presennol ein cymdeithas, ein cymunedau, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Themâu hynod berthnasol mewn blwyddyn lle y cynhelir etholiad cyffredinol. Bydd Effie yn torri eich calon.”

Iphigenia in Splott
yw’r gyntaf o ddwy ddrama gyffrous gan Gary Owen gyda’r ail, Violence and Son, yn cynrychioli ei ymddangosiad cyntaf yn y Royal Court Theatre ym mis Mehefin. Mae Gary Owen yn un o ddramodwyr cyfoes mwyaf llwyddiannus Cymru, gyda’i ddramâu yn cael eu perfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Crazy Gary's Mobile Disco. Mae Gary Owen wedi cynhyrchu dramâu cofiadwy megis Amgen: Broke  gan Sherman Cymru, Love Steals Us from Loneliness gan Sherman Cymru a National Theatre Wales; Ghost City gan Sgript Cymru a The Drowned World gan Paines Plough. Yn 2010 enwebwyd Gary ar gyfer Gwobr Drama Newydd Orau y TMA am ei ddrama Mrs Reynolds and the Ruffian a gynhyrchwyd gan Watford Palace Theatre.  

Iphigenia in Splott yw’r ail gynhyrchiad y mae’r Cyfarwyddwr Artistig Rachel O’Riordan wedi ei gyfarwyddo fel rhan o Sioe Arddangos y British Council. Y cyntaf oedd Hurricane for Ransom, a aeth ymlaen i gael llwyddiant rhyngwladol. Bydd Rachel O’Riordan hefyd yn dychwelyd i’r Fringe yng Nghaeredin yn dilyn ei chynhyrchiad llwyddiannus diwethaf, Unfaithful gan Traverse Theatre y llynedd.

Agorodd Iphigenia in Splott yn Theatr y Sherman, Caerdydd yr wythnos diwethaf, ddiwrnod ar ôl canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol. Mae Iphigenia in Splott yn sbarduno trafodaeth ynglŷn â chyflwr presennol cymdeithas; y ddyletswydd gofal i’w holl ddinasyddion a’r parch tuag at yr GIG.

Bydd Iphigenia in Splott Sherman Cymru yn cael ei pherfformio yn y Pleasance King Dome rhwng 24 a 30 Awst, am 1.50pm fel rhan o Sioe Arddangos y British Council.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @NiaElias: Yet another gorgeous children's production @ShermanTheatre @alunsaunders et al #magicporridgepot ❤️ today's #Cymraeg @GrandPa…
Thu, 23 Nov 2017