Hynt

Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i'w wisgo.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau'n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i'n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.

Cerdyn Aelodaeth yw Hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o'r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

Adnodd yw Hynt

Mae Hynt yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae'n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad a'r celfyddydau. Mae'r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

Byddwn yn hapus i esbonio’r cynllun yn llawn a’n rhan ni ynddo. Os hoffech siarad ag aelod o staff Theatr y Sherman, cysylltwch â 029 2064 6900.

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017