Gwyneth Lewis

Gwyneth Lewis by Sian DafyddGwyneth Lewis yn sgwrsio gyda Penny James

PJ: Faint o naid oedd hi i chi ysgrifennu drama lwyfan yn hytrach nag ysgrifennu barddoniaeth?

GL: Mae ysgrifennu barddoniaeth yn naturiol i mi, ond mae theatr yn newydd. Ar gyfer ysgrifennu Clytemnestra ‘roeddwn am wneud yn siŵr fy mod yn mynd i’r cyfeiriad iawn, felly es i ddosbarth ‘Cyflwyniad i Theatr’ gyda’r myfyrwyr yn Harvard er mwyn sicrhau mod i’n deall yr hanfodion.

Bu’r llwybr dysgu’n un serth, ond ‘rwy’n caru’r theatr ac mae gwneud hyn wedi bod fel dychwelyd at hen ffrind. I mi mae barddoniaeth yn theatrig. Mae wedi cymryd tair blynedd i mi ysgrifennu Clytemnestra - llawer hirach na darn o farddoniaeth. Dydw i ddim yn siŵr os yw hyn yn arferol neu ai fi’n unig sy’n gweithio fel hyn gan mai dyma fy nhro cyntaf!

PJ: Mae rhai’n dweud mai’r hen Roegiaid fu’n gyfrifol am baratoi’r ffordd ar gyfer y theatr Orllewinol ‘rydym ni’n gyfarwydd â hi heddiw. Beth yn eich barn chi sydd mor arbennig am eu dull nhw o adrodd stori?

GL: Drama Roegaidd sydd wrth wraidd pob theatr, ac eto mae’n dal yn ffres. Nid yw chwedlau’n dyddio na’r diddordeb ynddynt yn pallu. ‘Roeddwn i wedi tybio y byddai ysgrifennu am Clytemnestra yn dywyll iawn, ond mae wedi bod yn gyfnod emosiynol gyfoethog. Mae’n berthnasol i operâu sebon cyfoes. ‘Roedd y Groegiaid yr un mor feiddgar a phryfoclyd ag awduron Bad Girls! Fe ddarllenais i gryn dipyn gan fod gen i obsesiwn am ymchwilio.

PJ: Eglurwch pam ‘rydych chi wedi dewis y lleoliad penodol yma ar gyfer gosod eich fersiwn chi o stori Clytemnestra.

GL: Doeddwn i ddim eisiau togas! ‘Rwyf wedi gosod y stori yn y dyfodol gan fy mod eisiau dychmygu sefyllfa eithafol allai fod yn real. Yn ein byd ni heddiw ‘rydym yn siarad am brinder bwyd a phris olew, am gynhesu byd-eang a phethau’n prinhau. Mae’n ddiddorol dros ben ystyried sut mae pobol yn ymddwyn mewn amgylchiadau eithafol - dyma swmp a sylwedd pob drama Roegaidd.

PJ: Pam ydych chi’n meddwl fod stori Clytemnestra mor rymus?

GL: ‘Rwy’n cael fy nenu at stori Clytemnestra gan ei bod yn gymeriad mor anodd ei deall a’i dirnad. Wrth gwrs, rhaid cydymdeimlo â hi o gofio fod ei gŵr wedi lladd ei merch. Sut fyddai unrhyw fenyw’n teimlo? Ac eto, mae hi’n broblemus oherwydd ‘does bosib nad yw llofruddio’ch gŵr yn beth da i’w wneud. Mae wedi cymryd cryn amser i mi geisio deall beth yw nheimladau i tuag ati.

PJ: Beth ych chi’n meddwl bydd yr emosiynau allweddol fydd y gynulleidfa’n eu profi pan fyddant yn dod i weld y ddrama?

GL: ‘Rwy’n gobeithio byddant yn teimlo dros y cymeriadau, yn pryderu drostynt ac yn llawn empathi tuag atynt, ac yn gynhyrfus gan eu bod yn gymeriadau llawn bywyd. Hanfod trasiedi yw gweld y natur ddynol ar ei fwyaf eithafol, ac er y gall hyn fod yn anodd, mae hefyd yn gyffrous dros ben.

PJ: Beth mae’r broses o ysgrifennu drama am y tro cyntaf wedi ei roi i chi o ran eich profiad fel un sy’n ysgrifennu? Ydych chi wedi dysgu rhywbeth newydd?

GL: Mae wedi bod yn gyffrous. Mae fy mhen wedi bod yn llawn newyn, llofruddiaeth a godineb am dair blynedd. ‘Rwyf wedi ysgrifennu sawl drafft, a byddaf yn dal i chwarae rhan yn y cynhyrchiad hyd at y diwedd gan fynychu ymarferiadau a chyfrannu pryd bynnag allai. ‘Rwyf wedi gweithio’n glos iawn gydag Amy Hodge, y Cyfarwyddwr, sydd wedi bod yn wych. I fardd, mae’n dda cael gweithio fel rhan o dîm – fel arfer, fel rhywun sy’n ysgrifennu, ‘rwyf yn gweithio ar fy mhen fy hun, braidd yn unig heb gyfaill yn y byd!

PJ: Mae Sherman Cymru’n hyrwyddo ysgrifennu ac ysgrifenwyr newydd. Pa mor bwysig yw’r rôl yma yng Nghymru yn eich barn chi?

GL: Mae’n gwbl hanfodol oherwydd allwch chi ddim bodloni ar ysgrifennu’r gorffennol yn unig. ‘Rydym yn dychmygu straeon ar gyfer y dyfodol a ‘rydym angen ysgrifenwyr newydd yn ogystal â chynulleidfaoedd. Dyma ein dyfodol diwylliannol. Bu i’r Groegiaid helpu i lunio cymdeithas drwy’r theatr. Mae theatr yn dangos ein cyfnod ni i ni, ac yn ei drafod fel rhyw fath o ‘Gwestiynau’r Prif Weinidog’ theatrig. Mae Sherman Cymru wedi cymryd y risg o ymddiried ynof i ysgrifennu Clytemnestra, ond rhaid cymryd risg er mwyn cael pethau newydd. ‘Rwy’n hynod ddiolchgar mod i wedi cael y cyfle hwn ganddynt.

PJ: Pryd a ble fyddwch chi’n ysgrifennu fel arfer?

GL: Yn y boreau fyddai’n ysgrifennu fel arfer. ‘Rwy’n ysgrifennu cryn dipyn yn y gwely. ‘Rwy’n ysgrifennu pan fyddai allan a phan fyddai adref, does dim ots ble. ‘Rwy’n ddisgybledig wrth ysgrifennu adref, rhaid bod. Dyw fy ngŵr hyd yn oed ddim yn cael siarad!

PJ: Fyddai gennych chi air o gyngor i feirdd ac ysgrifenwyr newydd yn seiliedig ar eich profiad chi, a faint ydych chi’n tynnu ar eich profiadau fel rhywun sy’n ysgrifennu?

GL: Fy nghyngor i….Yfwch lai ysgrifennwch fwy! ‘Rwyf bendant o’r farn fod eich profiadau’n chwarae rhan fawr yn eich sgil fel awdur. Er gall profiadau bywyd fod yn anodd, mae ‘baggage’ bywyd yn ddefnyddiol iawn i fywyd yr awdur.

PJ: Ebrill 18 yw noson agoriadol Clytemnestra. Beth fyddwch chi’n ei deimlo’r noson honno?

Tyfais i fyny gyda’r Sherman a bydd yn wefr fawr i mi weld fy nrama’n cael ei pherfformio yma. Ond fe fyddaf yn gwisgo het fawr ar y noson! Byddaf yn teimlo’n ofnus dros ben, heb unman i guddio. Mae’n siŵr fyddai’n fwy nerfus nag erioed o’r blaen. Bydd fy ngŵr yno gyda mi i ‘nghefnogi.

PJ: Wedi byw gyda’r ddrama am dair blynedd, beth wnewch chi unwaith fydd Clytemnestra ar ben?

GL: ‘Rwy’n mynd i Sir Benfro i ddysgu sut i hwylfyrddio. Dyna sut fyddai’n dathlu.

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Join us today at Sherman Theatre betweeb 10.30am – 5pm for a day of free fun activities as we celebrate the inspiri… https://t.co/MBzqJ9jJXB
Sat, 21 Jul 2018