Cynrychiolydd Myfyrwyr

Student rep

  • Ydych chi wedi gwirioni ar theatr?
  • Ydych chi eisiau bod yn rhan o gefnogi un o theatrau blaenllaw Cymru?
  • Ydych chi’n berson brwdfrydig â diddordeb ysol mewn theatr?

Wel, cysylltwch â ni.

‘Rydym wrthi’n recriwtio ar gyfer ein cynllun cynrychiolydd myfyrwyr Hydref 2012. Sherman Cymru yw un o brif theatrau Cymru, ac mae hwn yn gyfle gwych i chi ymuno â ni a chael cip y tu ôl i’r llenni.

Beth sydd angen i chi ei wneud i ni?

  • Hybu Theatr y Sherman i gymunedau myfyrwyr Caerdydd a thu hwnt.
  • Rhoi adborth ac adwaith i ni am Gynyrchiadau Sherman Cymru.
  • Dangos ymrwymiad i Theatr y Sherman, ac at ein gwerthoedd ac amcanion.
  • Rhoi o’ch amser a’ch syniadau.

Beth yw’r manteision i chi?

  • Cipolwg ar fyd y theatr broffesiynol.
  • 2 Tocynnau AM DDIM – docyn i bob un o berfformiadau rhagolwg cwmni’r Sherman.
  • Cynigion Arbennig.
  • Cyfarch a Chroesawu.
  • Cewch brofiad gwerthfawr o weithio gyda’r tîm marchnata a’r tîm blaen tŷ.
  • Rhagor o docynnau YN RHAD AC AM DDIM - 2 docyn ar gyfer unrhyw sioe o’ch dewis chi os bydd eich gwaith yn rhagorol.

Mae hwn yn gyfle gwych i chi ddysgu ac i ennyn profiad, a bydd yn edrych yn wych ar eich C.V. Peidiwch â cholli cyfle! Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch rhag blaen!

Am ragor o wybodaeth neu am ffurflen gais cysylltwch ag Adam Jones ar neu ffoniwch 029 2064 6965.

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017