Cwmni Preswyl

Pluen2

CWMNI PLUEN

Mae Pluen yn creu theatr wreiddiol, heriol ac anghonfensiynol sydd yn cyfuno deialog amlieithog, gwaith corfforol a cherddoriaeth byw. Mae pob project yn unigryw ac yn cael ei ddatblygu trwy gydweithredu gyda’r gymyned cyn cael ei greu mewn i gynhyrchiad proffesiynol a’i rannu ar draws Cymru.

“Yn 2017, bydd Pluen yn parhau i ymchwilio a datblygu eu cynhyrchiad nesaf, bydd cyfle i’w weld yn fuan iawn. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r gwneuthurwr theatr Paul Jenkins ar ddarn newydd sydd yn archwilio’r cymeriad Hamlet a’i berthynas i iechyd meddwl gyda grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr. Byddwn yn gweithio gyda chwmni o bobl ifanc ar gynhyrchiad dwyieithog newydd sbon. Rydym wir yn edrych ymlaen at rannu’r gwaith gyda chi trwy gydol 2017."

Rydym ni’n creu gwaith yn gydweithredol ac yn agored ac rydym yn gwerthfawrogi sgwrs. Os hoffech chi sgwrs gyda ni ynglŷn â’n gwaith neu i drafod partneriaeth, gyrrwch neges atom ni ar facebook, twitter, instagram neu e-bostiwch cwmnipluen@gmail.com. Bydden ni wrth ein boddau i glywed gennych!

Cariad mawr,
Tîm Pluen

Pluen1 Pluen3

 

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Like your favourite bowl of porridge, The Magic Porridge Pot will leave you with a wonderfully warm glow this Chris… https://t.co/vUJuSjaKzY
Tue, 21 Nov 2017