Bar Caffi

BRECWAST

O 9yb Llun – Sad, rydym yn gweini tê, coffi , toesenni, tost ac uwd i roi cychwyn ar eich diwrnod.

BAR HELAETH

Mae ein dewis helaeth wrth y bar yn cynnwys cwrw crefft, gwinoedd wedi’u dethol yn ofalus a gwirodydd campus.

AMSER CINIO

Cymrwch ennyd allan o’ch diwrnod a mwynhewch frechdanau, tatws trwy’u crwyn, cawl, salad, byrbrydau a phaninis blasus.

CYN-SIOE

Mae ein detholiad o fyrbrydau yn parhau i fod ar gael cyn bob sioe. Rydym hefyd yn cynnig dysglau rhannu moethus sy’n cynnig opsiwn bwyta cyn-sioe perffaith. Dylai archebion ar gyfer ciniawa cynsioe gael eu gwneud dim hwyrach na 30 munud cyn i’r llen godi a rhaid archebu dysglau rhannu o flaen llaw cyn 5yh ar ddiwrnod y perfformiad, gallwch wneud hynny ar ein gwefan neu trwy ein Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900. Am wybodaeth ynglyn ag alergeddau cysylltwch â duty.manager@shermantheatre.co.uk

Lle i Gyfarfod ac i Weithio

Mae ein cyntedd yn le gwych i weithio neu i gynnal cyfarfod anffurfi ol. Rydym yn cynnig gwê di-wifr cyflym iawn am ddim.

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Rydym yn hynod falch i gyhoeddi mai cyfranogwyr y Rhaglen Dramodwyr Cymreig 2018 fydd:@IslaUre, @JonLloydBerry,… https://t.co/UzhupK5gbs
Tue, 23 Jan 2018