Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Ar Daith

Yr Argae - Ar Daith 2009

Gan Conor McPherson
Cyfieithiad o The Weir gan Wil Sam Jones
Cyfarwyddwr Arwel Gruffydd

“Ysbrydion ac angylion ag ati? Damia nhw. Fedra i mo’u haros nhw.”

Mewn tafarn fechan, wledig ym mhellafion digyffro’r Ynys Werdd, mae tri hen lanc yn rhannu sgwrs a pheint – yn ôl eu harfer. Ond heno, mae Finbar Mack yn hwylio i mewn o’r dre’ a gwraig ifanc, newydd i’r ardal, o dan ei aden. Wrth i wres y tân eu dwyn yn nes ac i win y gwan iro’r dweud, mae pawb yn eu tro yn datgelu tipyn o’u hanes – a’r hanesion fymryn mwy arswydus na’r disgwyl. Daw’n amlwg fod yma fwy na chysur a chwmnïaeth deg ar noson stormus; mae yma ofn ac unigrwydd a hiraeth.

Wedi ei throsi i’r Gymraeg gan Wil Sam yn ei arddull hynaws, ddihafal, dyma ddrama iasol sy’n mynd i’r afael â’r digwyddiadau mawrion hynny sy’n ein diffinio fel unigolion, a’r profiadau bychain sy’n ein dwyn ynghyd.

Perfformiadau Caerdydd 22 - 24 Ionawr

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - 27 Ionawr 7.30pm
Galeri, Caernarfon - 29 Ionawr 7.30pm
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug - 30 - 31 Ionawr 7.45pm
Theatr Mwldan, Aberteifi - 3 - 4 Chwefror 7.30pm
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron - 6 Chwefror 7.30pm
Neuadd Dwyfror, Pwllheli - 11 - 12 Chwefror 7.30pm
Theatr Harlech - 13 Chwefror 7.30pm


Deep Cut - Ar Daith 2009

Gan Philip Ralph
Cyfarwyddwr Mick Gordon 

Tricycle Theatre, Llundain
10 Mawrth - 4 Ebrill 2009

 

Roedd Preifat 18 mlwydd oed, Cheryl James o Langollen, yn un o bedwar milwr ifanc i farw oherwydd clwyfau ergyd gwn ym marics Deepcut rhwng 1995 a 2002.

Dymunai rhieni Cheryl cael atebion oddi wrth y bobl oedd yn gyfrifol am ofal eu merch. Ond sut mai dechrau’r broses galaru pan nad oes unrhywun yn medru cynnig esboniad llawn? Faint o gryfder sydd ei angen i barhau i ofyn y cwestiynau lletchwith, anoddaf?

Gan ddefnyddio deunydd gwreiddiol a thystiolaeth o lygad y ffynnon, mae Deep Cut yn ddisgrifiad eofn a grymus o siwrne un teulu drwy gyfnod cythryblus i lefydd hollol ddieithr.