Acting Out Caerdydd
Mae ‘Acting Out’ Caerdydd yn brosiect Celfyddydau Perfformio sydd wedi’i gwobrwyo, a’n cael ei rhedeg yn y Sherman gyda chydweithrediad Gwasanaethau Ysgolion Caerdydd, fel rhan o’r rhaglen Cyfleoedd Estynedig.

"To me Acting Out
is somewhere
I can be myself
and no-one judges me."
- aelod Acting Out Caerdydd
Mae’r prosiect yn agored i ddisgyblion Blwyddyn 10 & 11
(14 -16 mlwydd oed), ac mae’n rhoi cyfle i bob myfyriwr fod yn rhan o raglen gyffrous sy’n cynnig amrywiaeth eang o sgiliau ym myd y celfyddydau perfformio, a phrofiad gwerthfawr o weithio fel artist mewn cwmni theatr proffesiynol.
Dros gyfnod o ddwy flynedd bydd pob grwp yn gweithio fel perfformwyr mewn o leiaf pedwar cynhyrchiad, yn ogystal â chael cyfrannu i’r adrannau technegol a chreadigol fel y gwisgoedd, cynllunio’r goleuo, dylunio/adeiladu’r setiau, cynllunio/gweithredu’r sain, neu gyfarwyddo. Wrth ennill sgiliau ym mhob un o’r adrannau hyn, a dysgu am ragolygon mewn gyrfa yn y gwahanol gelfyddydau perfformio, mae pob myfyriwr yn cwblhau diploma lefel 1 BTEC yn y celfyddydau perfformio, sy’n gyfystyr â dau TGAU.
Er mwyn cynnig y BTEC, mae ‘Acting Out’ Caerdydd yn cyd-weithio â Choleg Glan Hafren, sydd wedi derbyn nifer cynyddol o ddisgyblion o AOC ar eu cyrsiau addysg bellach.
Mae’r gwahanol fathau o sgiliau a ddysgir yn y rhaglen hon yn cynnwys: ymladd llwyfan, sgiliau syrcas, ‘body percussion’, canu, dawnsio, ac wrth gwrs, actio. Mae’r myfyrwyr hefyd yn creu cyd-gynyrchiadau gydag amrywiaeth eang o grwpiau ieuenctid a chymunedol.
